2 Chronicles 20:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei ddychryn penderfynodd Jehosaffat geisio'r ARGLWYDD, a chyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.