2 Chronicles 20:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr ARGLWYDD a ddrylliodd dy waith di. A'r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A cafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond proffwydodd Elieser fab Dodafa o Maresa yn erbyn Jehosaffat, a dweud, "Am i ti wneud cynghrair ag Ahaseia, fe ddryllia yr ARGLWYDD dy waith." Felly dinistriwyd y llongau, ac ni allent hwylio i Tarsis.