2 Chronicles 21:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn: a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag ARGLWYDD DDUW ei dadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Yr un pryd gwrthryfelodd Libna yn ei erbyn, am iddo droi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.