2 Chronicles 21:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Dwyt ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llythyr at Jehoram oddi wrth y proffwyd Elias yn dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Dafydd dy dad: 'Ni ddilynaist ti lwybrau Jehosaffat dy dad ac Asa brenin Jwda,