2 Chronicles 21:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Bu farw heb neb yn galaru amdano, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.