2 Chronicles 22:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a'i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a'i rhoddodd ef a'i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a'i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram, yn cymryd Joas, mab ei brawd Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. Cuddiodd e gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. (Roedd Jehosheba yn ferch i'r brenin Jehoram, yn wraig i Jehoiada'r offeiriad, ac yn chwaer i Ahaseia.) Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd i Joas, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cymerwyd Jehoas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y brenin, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd, a'i roi ef a'i famaeth mewn ystafell wely. Felly y cuddiwyd ef rhag Athaleia, fel na allai ei ladd, gan Jehoseba, merch y Brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, oherwydd yr oedd hi'n chwaer i Ahaseia.