2 Chronicles 22:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â'r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, am ei fod yn wael iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond anafodd y Syriaid Joram a chiliodd yntau i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.