2 Chronicles 23:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y seithfed flwyddyn ymwrolodd Jehoiada, a gwnaeth gynghrair 'r capteiniaid, Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sichri.