2 Chronicles 23:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a'r dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jehoiada a'i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddodd Jehoiada a'i feibion ef, a'i eneinio, a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"