2 Chronicles 23:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a'r cerddorion gyda'i hofferynnau yn arwain y dathlu. Pan welodd hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, "Brad! brad!"