2 Chronicles 23:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Lefiaid a pobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd — wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o'u dyletswydd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.