2 Chronicles 24:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD — offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt orffen, daethant gweddill yr arian i'r brenin ac i Jehoiada, ac fe'i defnyddiwyd i wneud llestri i du375?'r ARGLWYDD, sef llestri ar gyfer y gwasanaeth a'r poethoffrymau, llwyau a llestri aur ac arian. Buont yn offrymu poethoffrymau yn barhaus yn nhu375?'r ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada.