2 Chronicles 24:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ysbryd DUW a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd DUW, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr ARGLWYDD? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr ARGLWYDD, am hynny yntau a'ch gwrthyd chwithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Sechareia (mab Jehoiada'r offeiriad), a dyma fe'n sefyll o flaen y bobl a cyhoeddi, “Dyma mae Duw'n ddweud. ‘Pam ydych chi'n torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Fyddwch chi ddim yn llwyddo. Am i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD, mae e wedi troi cefn arnoch chi.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth ysbryd Duw ar Sechareia fab Jehoiada yr offeiriad, ac fe safodd gerbron y bobl a dweud, "Fel hyn y dywed Duw: 'Pam yr ydych yn torri gorchmynion yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn ffynnu. Am i chwi droi cefn ar yr ARGLWYDD, y mae yntau wedi troi ei gefn arnoch chwi.'"