2 Chronicles 24:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ddiwedd y flwyddyn honno, dyma byddin Syria'n dod i ryfela yn erbyn Joas. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda a Jerwsalem ac yn lladd yr arweinwyr i gyd, a dwyn popeth o werth a'i gymryd i frenin Damascus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddiwedd y flwyddyn daeth byddin Syria i ryfela yn erbyn Jehoas. Daethant i Jwda a Jerwsalem, a lladd pob un o dywysogion y bobl, ac anfon eu hysbail i gyd i frenin Damascus.