2 Chronicles 24:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a'i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i'w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a'i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd e wedi ei anafu'n ddrwg yn y frwydr, ac ar ôl i fyddin Syria adael dyma weision Joas yn cynllwynio yn ei erbyn am ei fod wedi lladd mab Jehoiada'r offeiriad. Dyma nhw'n ei lofruddio yn ei wely. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond ddim ym mynwent y brenhinoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l i'r Syriaid fynd ymaith, a'i adael wedi ei glwyfo'n ddrwg, cynllwyniodd ei weision ei hun yn ei erbyn i ddial am farwolaeth mab Jehoiada yr offeiriad, a lladdasant Jehoas ar ei wely. Felly bu farw, ac fe'i claddwyd yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau'r brenhinoedd.