2 Chronicles 25:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Amaseia a'u neilltuodd hwynt, sef y dorf a ddaethai ato ef o Effraim, i fyned i'w mangre eu hun. A llidiodd eu dicllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Jwda, a dychwelasant i'w mangre eu hun mewn llid dicllon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Amaseia'n anfon y milwyr oedd wedi dod o Effraim adre. Roedden nhw'n ddig gyda Jwda, a dyma nhw'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain wedi gwylltio'n lân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly rhyddhaodd Amaseia y fintai a ddaeth ato o Effraim, a'i hanfon adref. Yr oeddent hwy yn flin iawn gyda Jwda, ac aethant adref yn ddicllon.