2 Chronicles 25:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhyfelwyr, y rhai a ddarfuasai i Amaseia eu troi yn ôl rhag myned gydag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Jwda, o Samaria hyd Beth-horon, ac a drawsant ohonynt dair mil, ac a ysglyfaethasant anrhaith fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser dyma'r milwyr oedd Amaseia wedi eu hanfon adre yn ymosod ar drefi Jwda rhwng Samaria a Beth-choron. Cafodd tair mil o bobl eu lladd ganddyn nhw a dyma nhw'n dwyn lot fawr o ysbail.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd y fintai a waharddodd Amaseia rhag dod gydag ef i'r frwydr wedi anrheithio dinasoedd Jwda, o Samaria i Beth-horon, a lladd tair mil o'u trigolion a chymryd llawer iawn o ysbail.