2 Chronicles 25:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dyfod Amaseia o ladd yr Edomiaid, efe a ddug dduwiau meibion Seir, ac a'u gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogldarthodd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn byddin Edom, dyma Amaseia'n dod â'u duwiau nhw gydag e. Gwnaeth nhw'n dduwiau iddo'i hun, a'u haddoli a llosgi arogldarth o'u blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddychwelodd Amaseia ar l gorchfygu'r Edomiaid, daeth duwiau pobl Seir a'u gosod yn dduwiau iddo'i hun; addolodd hwy ac arogldarthu iddynt.