2 Chronicles 25:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o'th law di?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag Amaseia a dyma fe'n anfon proffwyd ato gyda'r neges yma, “Pam wyt ti'n troi at y duwiau yma oedd yn methu achub eu pobl eu hunain o dy afael?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny digiodd yr ARGLWYDD wrth Amaseia ac anfonodd broffwyd ato. Dywedodd hwnnw wrtho, "Pam yr wyt wedi troi at dduwiau na fedrent achub eu pobl eu hunain rhagot?"