2 Chronicles 25:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntau, A wnaed tydi yn gynghorwr i'r brenin? paid, i ba beth y'th drewid? A'r proffwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, Mi a wn fod DUW wedi arfaethu dy ddinistrio di, am i ti wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Amaseia yn torri ar ei draws. “Ydw i wedi dy benodi di yn gynghorwr brenhinol? Cau dy geg! Neu bydda i'n gorchymyn i ti gael dy ladd!” Dyma'r proffwyd yn stopio, ond yna ychwanegu, “Bydd Duw yn dy ladd di am wneud hyn a peidio gwrando arna i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd yn siarad, dywedodd y brenin, "A ydym wedi dy benodi'n gynghorwr i'r brenin? Taw! Pam y perygli dy fywyd?" Tawodd y proffwyd, ond nid cyn dweud, "Gwn fod Duw wedi penderfynu dy ddinistrio am iti wneud hyn a gwrthod gwrando ar fy nghyngor."