2 Chronicles 25:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Amaseia brenin Jwda a ymgynghorodd, ac a anfonodd at Joas mab Jehoahas mab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Amaseia, brenin Jwda, yn derbyn cyngor ei gynghorwyr, ac yn anfon neges at Jehoas brenin Israel (mab Jehoachas ac ŵyr Jehw). Y neges oedd, “Tyrd, gad i ni wynebu'n gilydd mewn brwydr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi ymgynghori, anfonodd Amaseia brenin Jwda neges at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, "Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb."