2 Chronicles 25:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Jehoas, brenin Israel, yn anfon neges yn ôl at Amaseia yn dweud: “Un tro yn Libanus dyma ddraenen fach yn afon neges at goeden gedrwydd fawr i ddweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab i.’ Ond dyma anifail gwyllt yn dod heibio a sathru'r ddraenen dan draed!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd Joas brenin Israel yn l at Amaseia brenin Jwda a dweud, "Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon, a dweud, 'Rho dy ferch yn wraig i'm mab'. Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.