2 Chronicles 25:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedaist, Wele, trewaist yr Edomiaid, a'th galon a'th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n dweud dy fod wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant nawr ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n wir iti daro Edom, ond aethost yn ffroenuchel a balch. Yn awr, aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr gyda thi?"