2 Chronicles 25:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Ni bydd marw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, ond pob un a fydd marw am ei bechod ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth e ddim lladd eu plant nhw, am mai dyna oedd sgrôl Moses yn ei ddweud. Dyma'r gorchymyn oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu tadau. Y troseddwr ei hun ddylai farw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni roddodd eu plant i farwolaeth, yn unol 'r hyn sy'n ysgrifenedig yn y gyfraith, yn llyfr Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth."