2 Chronicles 25:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Amaseia a gynullodd Jwda, ac a'u gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd, trwy holl Jwda a Benjamin: ac efe a'u cyfrifodd hwynt o fab ugain mlwydd ac uchod, ac a'u cafodd hwy yn dri chan mil o wŷr etholedig yn gallu myned i ryfel, yn medru trin gwaywffon a tharian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Amaseia'n casglu dynion Jwda at ei gilydd a rhoi trefn ar ei fyddin drwy benodi capteniaid ar unedau o fil a capteiniaid ar unedau o gant, a gosod teuluoedd Jwda a Benjamin yn yr unedau hynny. Dyma fe'n cyfrif y rhai oedd yn ddau ddeg oed neu'n hŷn, ac roedd yna 300,000 o ddynion da yn barod i ymladd gyda gwaywffyn a thariannau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe gasglodd Amaseia wu375?r Jwda a'u gosod fesul teuluoedd o dan gapteiniaid miloedd a chapteiniaid cannoedd trwy holl Jwda a Benjamin. Rhifodd y rhai oedd yn ugain mlwydd oed a throsodd, a'u cael yn dri chan mil o wu375?r dethol, parod i fynd allan i ryfel ac yn medru trin gwaywffon a tharian.