2 Chronicles 26:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a'i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn Jerwsalem, gyda chymorth gweithwyr medrus, gwnaeth beiriannau ar gyfer y tyrau a'r conglau, i daflu saethau a cherrig mawr. Yr oedd yn enwog ymhell ac agos, am ei fod yn cael ei gynorthwyo'n rhyfeddol nes iddo ddod yn rymus.