2 Chronicles 26:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr ARGLWYDD: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bu Wseia'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad bryd hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth yntau allan ar frys, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro. A bu'r Brenin Usseia yn wahanglwyfus hyd ddydd ei farw, yn byw o'r neilltu yn ei du375? o achos y gwahanglwyf, ac wedi ei dorri allan o du375?'r ARGLWYDD. Daeth Jotham ei fab i oruchwylio'r palas ac i reoli pobl y wlad.