2 Chronicles 26:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Usseia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef gyda'i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i'r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw Usseia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr mewn man claddu yn perthyn i'r brenhinoedd, oherwydd dywedasant, "Yr oedd yn wahan-glwyfus." A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.