2 Chronicles 26:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth allan i ryfela yn erbyn y Philistiaid, a chwalu muriau Gath, Jabne ac Asdod; yna fe adeiladodd ddinasoedd yng nghyffiniau Asdod ac ymysg y Philistiaid.