2 Chronicles 26:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr Ammoniaid deyrnged i Usseia, ac yr oedd yn enwog hyd at derfyn yr Aifft am ei fod mor rymus.