2 Chronicles 27:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pump ar hugain oed oedd Jotham pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa ferch Sadoc oedd enw ei fam.