2 Chronicles 28:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedasant wrthynt, Ni ddygwch y gaethglud yma: canys gan i ni bechu eisoes yn erbyn yr ARGLWYDD, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn erbyn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant wrthynt, "Ni chewch ddod 'r caethgludion yma, oherwydd byddai'r hyn y bwriadwch chwi ei wneud yn ein harwain i droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn ychwanegu at ein pechodau a'n troseddau. Y mae ein trosedd eisoes yn fawr ac y mae llid tanbaid yn erbyn Israel."