2 Chronicles 28:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr ARGLWYDD ei DDUW a'i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a'i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a'u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a'i trawodd ef â lladdfa fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a'i goncro. Cafodd llawer o'r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a cafodd llawer iawn o'i fyddin eu lladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr.