2 Chronicles 28:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Elcana y nesaf at y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim.