2 Chronicles 29:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia y brenin a'r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr ARGLWYDD, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd y Brenin Heseceia a'r swyddogion i'r Lefiaid foliannu'r ARGLWYDD yng ngeiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly canasant fawl yn llawen, ac ymostwng ac ymgrymu.