2 Chronicles 29:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a'u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i'r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na'r offeiriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd trwy'r defodau na'r offeiriaid.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid oedd digon o offeiriaid i flingo'r holl boethoffrymau; felly cynorthwyodd eu brodyr y Lefiaid hwy i orffen y gwaith, nes i fwy o offeiriaid ymgysegru, oherwydd yr oedd y Lefiaid yn cymryd mwy o ofal wrth ymgysegru na'r offeiriaid.