2 Chronicles 29:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein DUW, ac a'i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd troseddodd ein hynafiaid, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ei wrthod, a throi oddi wrth babell yr ARGLWYDD a chefnu arni.