2 Chronicles 3:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'u rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'u rhoddodd ar y cadwynau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth rwydwaith ar ffurf cadwyn a'i osod ar ben y colofnau, a chant o bomgranadau i'w addurno.