2 Chronicles 30:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i'w sancteiddio i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan fod llawer o bobl yno oedd heb fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, y Lefiaid oedd yn lladd yr ŵyn dros bawb oedd yn methu cyflwyno'r offrwm eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am fod llawer yn y gynulleidfa heb ymgysegru, yr oedd y Lefiaid yn lladd oen y Pasg dros bawb halogedig, er mwyn eu cysegru i'r ARGLWYDD.