2 Chronicles 30:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a'r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl Israel yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Bara Croyw yn llawen am saith diwrnod. Roedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moli'r ARGLWYDD bob dydd, ac yn canu ei glod yn uchel ar offerynnau cerdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadwodd yr Israeliaid oedd yn Jerwsalem u373?yl y Bara Croyw am saith diwrnod llawenydd mawr, ac yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moliannu'r ARGLWYDD yn feunyddiol ag offer soniarus yn perthyn i'r ARGLWYDD.