2 Chronicles 30:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Heseceia'n canmol y Lefiaid am eu dawn wrth addoli'r ARGLWYDD. Aeth y gwledda ymlaen am saith diwrnod. Roedden nhw'n cyflwyno offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ac yn cyffesu eu pechodau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Calonogodd Heseceia bob un o'r Lefiaid oedd yn gyfrifol am ddysgu ffyrdd daionus yr ARGLWYDD. Yna, am saith diwrnod yr u373?yl bu pawb yn gwledda, yn aberthu heddoffrymau ac yn diolch i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.