2 Chronicles 30:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i'r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a'r tywysogion a roddasant i'r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Heseceia wedi rhoi mil o deirw a saith mil a ddefaid a geifr i'r gynulleidfa. A dyma'r arweinwyr yn rhoi mil arall o deirw a deg mil o ddefaid a geifr iddyn nhw. A aeth llawer iawn mwy o offeiriaid drwy'r ddefod o buro eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Darparodd Heseceia brenin Jwda fil o fustych a saith mil o ddefaid i'r gynulleidfa, a rhoddodd y swyddogion fil o fustych a deng mil o ddefaid iddynt. Yna ymgysegrodd llawer iawn o'r offeiriaid.