2 Chronicles 30:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y rhedegwyr a aethant â'r llythyrau o law y brenin a'i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd negeswyr eu hanfon allan i bobman yn Israel a Jwda gyda llythyr oddi wrth y brenin a'r arweinwyr. A dyma oedd y llythyr yn ei ddweud: “Bobl Israel, trowch yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, iddo fe droi'n ôl atoch chi, yr ychydig sydd wedi dianc o afael brenhinoedd Asyria.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ar orchymyn y brenin, gyda llythyrau oddi wrtho ef a'i swyddogion, yn dweud, "Bobl Israel, dychwelwch at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, ac fe ddychwel yntau at y gweddill ohonoch chwi a ddihangodd o law brenhinoedd Asyria.