2 Chronicles 30:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn ARGLWYDD DDUW eu tadau; am hynny efe a'u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod fel eich tadau a'ch brodyr oedd yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. Dyna pam cawson nhw eu cosbi ganddo, fel dych chi'n gweld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch bod fel eich hynafiaid a'ch tylwyth, a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid; oherwydd cawsant hwy eu hanrheithio, fel y gwelwch.