2 Chronicles 30:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i'r ARGLWYDD, a deuwch i'w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bod yn ystyfnig fel eich tadau. Byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a dewch i'r deml sydd wedi ei chysegru ganddo am byth. Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, iddo stopio bod mor ddig gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, peidiwch bod yn ystyfnig fel eich hynafiaid, ond ymostyngwch i'r ARGLWYDD, a dewch i'w gysegr a gysegrodd ef yn dragywydd; gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw er mwyn iddo droi ei lid tanbaid oddi wrthych.