2 Chronicles 30:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a'ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a'u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich DUW, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnewch chi droi'n ôl at yr ARGLWYDD, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich plant a'ch perthnasau'n gaeth yn dangos trugaredd arnyn nhw. Byddan nhw'n eu hanfon yn ôl i'r wlad yma. Mae'r ARGLWYDD eich Duw mor garedig a thrugarog. Fydd e ddim yn eich gwrthod chi os trowch chi'n ôl ato fe.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os dychwelwch at yr ARGLWYDD, caiff eich pobl a'ch plant drugaredd gan eu caethgludwyr, a dychwelyd i'r wlad hon; oblegid y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rasol a thrugarog, ac ni thry ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch ato."