2 Chronicles 31:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma'r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu'r allorau lleol trwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i'w trefi eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar l eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun.