2 Chronicles 31:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua'r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i DDUW, i rannu offrymau yr ARGLWYDD, a'r pethau sancteiddiolaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu'r rhoddion oedd wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, a'r eitemau wedi eu cysegru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd.