2 Chronicles 31:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a'r Lefiaid i'r poethoffrwm, ac i'r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Heseceia'n gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau — sef cyflwyno'r offrymau i'w llosgi a'r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.