2 Chronicles 31:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a'r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin yn rhoi cyfran o'i anifeiliaid ei hun yn offrymau i'w llosgi'n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi eu pennu yn y Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.